SL(5)424 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau diwygio hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) i adlewyrchu ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ac i sicrhau bod myfyrwyr a fyddai wedi bod yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2019 yn union cyn y diwrnod ymadael yn parhau’n gymwys i gael cymorth ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny.

Mae Rheoliadau 2019 yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd meistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Mae Rheoliadau 2019 yn defnyddio amrywiol ddisgrifiadau tiriogaethol a sefydliadol mewn perthynas â’r meini prawf preswylio. Mae’r rhain yn cynnwys cyfeiriadau at yr UE ac AEE. Gan na fydd y DU bellach yn aelod o’r naill na’r llall, mae angen diwygiadau technegol i sicrhau y bydd iaith y ddeddfwriaeth yn parhau i weithredu’r polisi presennol yn effeithiol. Bydd y newidiadau yn dod i rym pan ddaw’r ddeddfwriaeth newydd i rym ar y diwrnod ymadael.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i Reoliadau 2019 i sicrhau bod iaith y ddeddfwriaeth yn parhau i weithredu polisi presennol yn effeithiol pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er eu bod yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r UE, ni chaiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan ddefnyddio’r pwerau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“y Ddeddf Ymadael”). Yn hytrach, gwneir y Rheoliadau gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”).

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn y Memorandwm Esboniadol bod dadl y dylid gwneud y Rheoliadau o dan y Ddeddf Ymadael, ond eu bod yn ystyried bod y pwerau o dan Ddeddf 1998 yn fwy priodol. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:

“No new policy is being introduced and the Regulations will not do anything to recreate or replace EU law in domestic legislation. These amendments are in line with other technical amendments routinely made to student finance legislation using the cited powers. 

 An important consideration in this decision was accessibility of the law. Student support legislation is extremely complex and often amended. Regulations made under the Withdrawal Act will not be directly connected to education legislation, making discovery of the appropriate legislation more difficult than it ought to be for the public. Equally, in terms of accessibility, the title of the Regulations includes “EU Exit”, making it clear that there is a link to the departure of the UK from the EU. ”

 

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Mehefin 2019